Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18
Diolch i chi am ddod i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 2 Tachwedd i drafod cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18. Roedd nifer o feysydd y gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor yn eu cylch i roi rhagor o wybodaeth. Mae yna hefyd un neu ddau o feysydd y byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael rhagor o eglurhad yn eu cylch.
Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd
Gwnaethoch nodi bod gwerthusiad o'r prosiect wedi'i wneud ac y byddech yn ysgrifennu at y Pwyllgor gan roi rhagor o fanylion am y canfyddiadau.
Asiantaeth er Hyrwyddo'r Gymraeg
Gwnaethoch nodi eich bod yn ystyried sefydlu asiantaeth er hyrwyddo'r iaith Gymraeg a beth fyddai strwythur a swyddogaeth asiantaeth o'r fath. Roeddech yn gobeithio gwneud penderfyniadau terfynol ar y materion hyn cyn i'r gyllideb derfynol gael ei hystyried gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr. Gwnaethoch addo y byddech yn ysgrifennu at y Pwyllgor ar ôl i chi fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau.
Asesiad Effaith Strategol Integredig
Gwnaethoch addo rhoi rhagor o fanylion o ran ynglŷn â sut rydych yn bwriadu cyflawni'r blaenoriaethau a'r ymrwymiadau ar gyfer y Gymraeg a'r canlyniadau cysylltiedig o ran yr asesiad effaith strategol integredig yn y naratif ynglŷn â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Llinell Wariant y Gymraeg mewn Addysg yn y Gyllideb
Mewn ymateb i gwestiynau, gwnaethoch nodi y gellir defnyddio rhan o'r £4.85 miliwn ychwanegol sydd yn Llinell Wariant y Gymraeg mewn Addysg yn y Gyllideb i sefydlu asiantaeth newydd er hyrwyddo'r iaith Gymraeg, neu ynteu i greu swyddogaeth debyg o fewn corff sydd eisoes yn bodoli. Dywedasoch y byddech yn ysgrifennu at y Pwyllgor cyn i'r gyllideb derfynol ddod gerbron y Cynulliad ym mis Rhagfyr.
Cyllideb Comisiynydd y Gymraeg
Yn y cyfarfod gwnaethoch nodi nad oedd y Comisiynydd wedi gwneud unrhyw gais am gynnydd yn ei chyllideb. Fodd bynnag, yn dilyn hyn cysylltwyd â ni gan swyddfa'r Comisiynydd a ddywedodd wrthym:
Anfonwyd amcangyfrif ariannol y Comisiynydd ar gyfer 2017/18 at y Llywodraeth ar 6 Hydref. Mae dyletswydd statudol arnom i anfon yr amcangyfrif at y Llywodraeth o leiaf bum mis cyn y flwyddyn ariannol perthnasol.
Cyllideb y Comisiynydd ar gyfer 2016/17 oedd £3,051,000. Yn yr amcangyfrif gwnaeth y Comisiynydd gais am £150,000 ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. H.y. £75,000 yn ychwanegol ar gyfer 2017/18, sef cyllideb o £3,126,000.
Gallaf gadarnhau felly bod y Comisiynydd wedi gwneud cais am fwy o arian ar gyfer 2017/18.
Mae'n amlwg bod rhywfaint o ddryswch rhwng yr hyn a ddywedoch chi wrthym a'r hyn a ddywedodd y Comisiynydd wrthym yn ddiweddarach. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro'r sefyllfa fel mater o frys.
Yn gywir
Bethan Jenkins AC
Cadeirydd